Deintydd

Deintydd, DMD (Bwcwresti, Romania), Tyst. Ôl-rg Llon. (Llundain), Rhif CDC 223757.

Graddiodd Adrian yn 1996 yng Ngweriniaeth Foldofa ac yn dilyn hynny aeth e ymlaen at astudiaethau ôl-raddedig. Wedyn buodd e’n gweithio tramor fel Deintydd am dros 15 mlynedd, cyn iddo symud i Brydain. Yn 2012, fe lwyddodd i ennill cymhwyster (qualification) deintyddol Prydeinig a oedd yn ei ganiataù e i weithio ym Mhrydain fel Deintydd. Ers hynny, mae e wedi bod yn gweithio yn ein deintyddfa ni, ‘WDSP’, yn Abergwaun. Mae e’n teimlo’n angerddol dros ei waith, hynny yw: iddo fe, dyw bod yn Ddeintydd ddim jyst yn ‘job’.
Ar wahân i’w waith e fel Deintydd, mae e’n mwynhàu chwaraeon, cymryd rhan mewn prosiectau cymdeithasol lleol a theithio tramor.

Derbynydd

Mae Karen wedi bod yn gweithio yn y ddeintyddfa ers 1988, sef yn hirach nag unrhywun arall o’r staff.  Mae hi wedi gofalu am genedlaethau o gleifion, mewn ffordd brofffesiynol, gyfeillgar ac hwylus.  Yn ei hamser sbâr hi, mae hi’n mwynhaù cwmni ei hwyrion hi yn ogystal â’i chathod hi, cathod mae hi wedi achub.  Hefyd, mae hi’n hoffi llyfrau, miwsig ac mynd am dro yng nghefn gwlad neu ar lan y môr.

Nyrs Ddeintyddol Gofrestredig, Rhif GDC 213849

Fe ddechreuodd Rosie weithio yn neintyddfa ‘WDSP’ wrth ochr ei thad, y Deintydd Dr.Long, yn 2009.  Yn 2011, enillodd hi ei chymhwyster hi fel Nyrs Ddeintyddol.  Mae hi’n berson garedig iawn ac yn esbonio pethau i gleifion mewn ffordd rhwydd a chlir fel bod nhw’n deall popeth am eu triniaeth nhw.  Yn ogystal â hyn, mae hi’n edrych ymlaen at ennill ei chymwyster hi fel Nyrs Lonyddiad.  Yn ei hamser sbâr hi, mae  Rosie’n mwynhaù coginio, darllen llyfrau a theithio mewn Campervan ym Mhrydain gyda’i gŵr a’u ci nhw.

Nyrs Ddeintyddol Gofrestredig, Rhif GDC 134488

Dechreuoddd Laura weithio yn neintyddfa ‘WWDSP’ yn 2005, lle enillodd hi ei chymwyster hi fel Nyrs Ddeintyddol. Yn 2010, ymadawodd Laura â’r deintyddfa i ofalu am ei ddwy ferch fach hi. Fe ail-ymaelododd â’n tîm ni yn 2016. Heb os, mae hi’n Nyrs gyfeillgar a charedig ac ar hynobryd, mae hi’n gweithio tuag at ennill ei chymwyster hi fel Nyrs Lonyddiad. Mae hi’n mwynhaù hala amser gyda’i phlant hi, teithio, rhedeg a chadw’n heini.

Derbynydd

Mae Paula wedi bod yn gweithio yn neintyddfa ‘WDSP’ ers 2000.  Mae hi wrth ei bodd yn gofalu am gleifion yn ei ffordd garedig, hwylus ac effeithlon hi.  Mae Paula hefyd yn helpu gyda gwaith gweinydd ol y deintyddfa o ddydd i ddydd.  Mae hi’n mwynhaù teithio gyda ei theulu hi, yoga a cherdded ar y llwybr arfordirol gyda’r ci.

Fishguard, Pembrokeshire

SA65 9AL

07377376699

01348873370

Opening Hours

Mon - Fri: 9:00 - 17:00

Request An Appointment

weststreetdental@yahoo.co.uk