Deintyddfa Y Wesh

DEINTYDDIAETH GOSMETIG

Dyma beth mae Cymdeithas Ddeintyddol Brydeinig (British Dental Association [BDA] ) yn ei alw’n waith ‘Deintyddiaeth Gosmetig’ : ffrâm ddannedd (dental braces); coronau porslen; ffug-arwyneb dant (dental veneer); pont ddeintyddol.  O safbwynt y gyfraith, gall pob un o’r uchod cael ei wneud gan ddeintydd cyffredinol, ond gallant fod yn rhan o driniaeth helaethach sy’n cynnwys gwaith arbenigwyr mewn Orthodonteg a Phrosthodonteg.

Orthodonteg

Dylai gleifion sydd â naill ai dannedd uwch ac is sydd ddim yn cyffwrdd a’i gilydd yn gywir wrth gnoi, neu gleifion sy’n anhapus â golwg eu dannedd nhw, ystyried cael deintyddiaeth gosmetig.

Er mwyn i chi gael a – chadw yn y tymor hir – dannedd syth a chyson, a dannedd uwch ac is sydd yn cwrdd a’i gilydd yn gywir, heb sôn am eich gwên, wrth gwrs – gall orthodonteg gwneud hyn i gyd iddoch chi.

Orthodonteg

Mae techneg orthodonteg wedi datblygu a gwella dros y blynyddoedd, ac erbyn heddiw mae triniaeth yn cymryd llawer llai o amser ac yn fwy cyffyrddus hefyd. Mae’r driniaeth ‘Six Months Smile’ yn defnyddio’r elfennau gorau o wisgo ‘ffrâm ddannedd’ (braces) ond wedi newid y driniaeth a’r deunydd er mwyn i chi gael canlyniad cosmetig, sy’n eich siwtio chi.
Mae’r deunydd newydd mae ‘Six Months Smile’ yn ei ddefnyddio yn golygu y bydd y ffrâm ddannedd yn anodd i bobl eraill ei gweld.

Gwynnu Dannedd

Yn aml, mae gan bobl dant neu ddannedd sydd wedi eu staenio gan fwyd, te, coffi, baco neu gan ffactorau eraill. Mae llawer o bobl yn awyddus i gael dannedd mwy gwyn, mwy glân eu golwg.

Mae gwynnu dannedd yn broses digon siml ac un sydd â chanlyniadau sydd yn para. Serch hynny, gall rhai pobl fod yn sensitif i’r cemegolion sydd yn cael eu defnyddio yn ystod y driniaeth, yn enwedig os mae dannedd sensitif gyda chi yn barod. Os na chaiff y driniaeth ei pherfformio’n gywir, mae’n bosib i chi gael damwain boenus i’ch deintgig (gums). Byddwn ni’n gwneud yn siwr bod chi’n gwybod sut i ddefnyddio deunydd gwynnu dannedd yn gywir ac yn saff.

Bwlch-bontio

Pwrpas Bwlch-bontio yw cymryd lle un neu fwy o’ch dannedd coll. Byddwch chi’n gallu cnoi eich bwyd fel ro’ch chi’n arfer gwneud. Bydd e’n atal dannedd cyfagos rhag symud ac yn atal dannedd newydd yn y gên uchaf neu isaf rhag tyfu’n rhy hir. Yn ein gwaith Bwlch-bontio, mae’r deunyddiau sy’n cael eu defnyddio, o’r safon uchaf. Pan mae e’n bosib o safbwynt clinigol, gallwn hefyd cynnig bwlch-bontydd i chi sydd angen arnynt ond bach iawn o waith paratoadwy. Dylai Fwlch-bont bara am lawer o flynyddoedd, ond mae hynny’n dibynnu ar faint mor dda rydych chi’n gofalu amdanyn nhw. Meddyliwch am eich arferion pob dydd a allai effeithio ar eich Bwlch-bont, ac fe bariff yn hirach byth.

Wynebiadau

Y triniaethau cosmetig mwyaf poblogaidd ydy wynebiadau porslen, oherwydd eu golwg ac am yr amryw ffordd maen nhw’n gallu datrys problemau, megis: cuddio dant hyll, neu ddant wedi ei leoli’n wael, neu gau bwlch rhwng dau ddant, adfer dant sydd wedi ei dorri’n rhannol, neu wella golwg dant o ran ei lliw naturiol ayyb;

ATODLEN AR GYFER TREFNU YMGYNGHORIAD AM DDIM.

Abergwaun, Sir Benfro

SA65 9AL

07377376699

01348873370

Oriau Agor

Llun - Gwe: 9:00 - 17:00

Gofyn am Apwyntiad

weststreetdental@yahoo.co.uk