Deintyddfa Y Wesh
GWASANAETHAU LLONYDDU
Profiad di-ddolur, di-ofid ac effeithlon, gerbron ‘Deintyddfa Y Wesh’
GWASANAETHAU LLONYDDU
Cyn derbyn unrhyw driniaeth o dan lonyddiad, mae’n rhaid i gleifion gael apwyntiad yn gyntaf, er mwyn trafod eu hanes iechyd nhw ac er mwyn i’r Deintydd esbonio iddynt natur y broses lonyddu feddygol. (here)
Os oes unrhyw un o’r dilynol gyda chi, wedyn mae’n bosib bydd llonyddiad yn addas i chi:
- Mae gyda chi broblem wrth agor eich ceg neu’n hercian wrth glac-y-gwddwg (gag-reflex) yn rhwydd
- Rydych yn ofidus iawn am driniaeth ddeintyddol
- Cawsoch chi brofiad gwael wrth fynd at Ddeintydd yn y gorffennol
- Mae arnoch chi ofn nodwyddau neu offer deintyddol eraill
- Mae eich triniaeth yn gymhleth neu fod angen llawdriniaeth y geg arnoch chi
- Mae ffobia gyda chi o’r synau y clywch chi a’r sawrau y sawrwch chi mewn deintyddfa
- Rydych chi’n methu cadw eich ceg ar agor am amser hir
- Rydych chi’n gwadu bod ‘na broblem ddeintyddol, nes bod y dolur yn mynd yn ormod
- Rydych chi heb dderbyn gofal deintyddol proffesiynol ers sawl blwyddyn, efallai ers degawdau
- Dannedd sy’n ofnadwy o sensitif
- Mae’ch dwylo’n chwysu ac yn cydio wrth freichiau’r gadair…then, contact us to book an examination
- …wedyn, cysylltwch â ni i fwcio apwyntiad
Rydym Ni’n Troi Cleifion Gofidus yn Gleifion Hapus
Tra bod mynd at y Deintydd ar gyfer triniaeth yn rhywbeth cwbl normal i rai pobl, gall pobl eraill cyrraedd y deintyddfa yn llawn gofid.
Enw’r gofid yma yw ffobia deintyddol neu ofid deintyddol, lle mae cleifion yn teimlo’n ofnus o’r Deintydd ac yn ofnus o’r driniaeth. Dyw teimlo’n ofidus ddim yn broblem fawr, boed y claf yn blentyn neu’n oedolyn. Ond, gall hwn arwain at iechyd ceg gwael os nad yw’r claf yn mynd at Ddeintydd tros gyfnod hir.
Mae rhai cleifion yn ofnus oherwydd y profiadau gwael cawson nhw yn y gorffennol, neu oherwydd straeon maen nhw wedi clywed oddi wrth bobl eraill, neu hyd yn oed achos eu bod nhw heb fynd at Ddeintydd ers sbel. Mae eraill yn casáu’r synau, y sawrau a’r blasau sy’n gysylltiedig â thriniaeth ddeintyddol, ac os na allan nhw reoli eu hofn o’r rhain, wedyn efallai byddai fe’n well iddyn nhw gael ‘llonyddiad deintyddol’ (‘dental sedation’) yn ystod eu triniaeth nhw.
Gyda’i bersonoliaeth gyfeillgar, gall ein Deintydd wneud i glaf gofidus, teimlo’n gyfforddus a llonydd yn y deintyddfa, fel eu bod nhw’n gallu trafod eu teimladau a’u hanghenion gyda fe. Mae ‘na sawl opsiwn gyda ni - gan gynnwys llonyddiad – sy’n helpu i leddfu nerfusrwydd a gofid claf yn ystod ei (h)ymweliadau â ni a thra bod nhw’n derbyn triniaeth.
Mae llonyddiad yn broses sy’n defnyddio meddyginiaethau llonyddol, er mwyn i ymweliadau â’r Deintydd fod yn brofiad mwy esmwyth, ac mae hyn yn galluogi’r Deintydd i berfformio’r driniaeth. Mae’r cyffur (drug) sy’n cael ei roi i’r claf yn ei (h)ymlacio e/hi ac, os llonyddiad mewnwythiennol (intravenous) yw e, bydd y claf heb unrhyw gof o’r driniaeth o gwbl.
Er byddwch chi’n teimlo rhywfaint yn gysglyd, bydd y meddyginiaethau yma ddim yn gwneud i chi gysgu. Mae llonyddiad deintyddol yn wahanol i anaesthesia cyffredinol, sy’n gwneud i chi gysgu’n ddwfn iawn.
Mae ymchwil diweddar wedi dangos taw’r prif reswm am fod oedolion yn gohirio gofal deintyddol yw ofn!
Llonyddiad Mewnwythiennol
Mae Llonyddiad Mewnwythiennol (Intravenous Sedation) yn golygu rhoi cyffur i mewn i’r gwaed trwy frechiad (injection), gan amlaf yn y llaw neu’r fraich, a heb wneud dolur. Mae hwn yn hollol saff. Byddwch chi bron yn cysgu trwy’r driniaeth i gyd, ac yn teimlo’n gyffyrddus ac wedi ymlacio a heb fawr o ymwybyddiaeth am y driniaeth yn mynd yn ei blaen. Er eich bod chi ddim yn cysgu’n wirioneddol, mae cleifion sydd wedi cael y llonyddiad yma’n ei disgrifio fel teimlad cysglyd, cyffyrddus a llonydd, ac ar ddiwedd y driniaeth byddwch chi’n cofio ond bach iawn o’r driniaeth ei hun, a fyddwch chi ddim wedi teimlo’r gofid arferol gall synau a sawriau llawdriniaeth ddeintyddol ei achosi.
Yna, gall y driniaeth gael ei gwneud dan yr anaesthetig (lleol) arferol, sy’n cael ei rhoi (yn ôl yr angen) yn ystod triniaeth. Mae’n bosib rhoi triniaeth i’r cleifion mwyaf gofidus ni dan y llonyddiad yma. Mae ein tîm o Ddeintydd a Nyrsys wedi derbyn hyfforddiant arbennig ar gyfer y math yma o lonyddiad, gan ddefnyddio’r offer diweddaraf i fonitro chi yn ystod y llonyddiad ac yn ystod eich ‘deffroad’ ohono. Byddan nhw’n sicrhau eich bod chi’n saff ac yn gyffyrddus trwy gydol eich ymweliad. Peidiwch â gadael i’ch ofn o driniaeth ddeintyddol eich atal rhag ofalu am eich dannedd. Sylwch bydd angen i chi gael rhywun arall i yrru chi adre ac aros gyda chi ar ôl i chi gael eich triniaeth dan lonyddiad.
Llonyddiad Cegol (Tabledi)
Gall tabledi (ar gyfer llonyddiad) cael eu cymryd gartre, er mwyn lleddfu gofid cyn dod am driniaeth. Mae cleifion gofidus yn gweud bod hwn yn helpu nhw ymlaen llaw. Bydd cleifion sydd yn cymryd tabledi llonyddu DDIM yn gallu gyrru ar ddiwrnod eu triniaeth nhw..
Llonyddiad Trwynol
Mae hwn yn dda ar gyfer cleifion sydd yn ofidus am ‘cannulation’ (nodwydd o dan groen y llaw), a byddan nhw’n derbyn y meddyginiaeth fel chwistrelliad i fewn i’w trwyn. Unwaith bod y claf wedi ei lonyddu, wedyn bydd y deintydd yn gosod ‘cannula’ (nodwydd meddygol) o dan groen y llaw er mwyn ychwanegu’r meddyginiaeth neu dileu effaith y meddyginiaeth, fel bod angen. Fydd y claf ddim yn ymwybodol o hyn gan fydd e/hi wedi ei llonydd’un ddigon yn barod.
Llonyddiad Ymanadliadol
Mae llonyddiad ymanadliadol (Relative Analgesia / Inhalation Sedation) yn dechneg sy’n defnyddio cymysgedd o nwyon, sy’n cael eu ymanadlu gan y claf i greu teimlad braf, llawen (euphoria). Mae rhai cleifion yn teimlo braidd yn gysglyd, ond maen nhw’n dal yn ymwybodol trwy’r amser. Mae e’n brofiad effeithlon a chyffyrddus a hawdd – mae’r claf yn anadlu trwy drwynog (nosepiece), dyna’r cyfan. Pan mae hwn yn cael ei berfformio gan ein Deintydd cymwysedig a phrofiadol ni, mae e’n hollol saff achos mae e’n amhosib i glaf ymanadlu gormod o’r nwyon llonyddiad, gan eu bod nhw’n ymadael â chorff y claf, cyn gynted ag y mae e / hi’n anadlu ‘awyr normal’(ocsigen).
Hefyd, does ‘na ddim sgil-effeithiau i ofidio amdanyn nhw – gallwch chi yrru’ch car garter ar ôl rhyw 15 munud ( er rydym ni’n argymell bod oedolyn yn hebrwng unrhyw blentyn sydd wedi cael triniaeth dan lonyddiad). Mae’r dechneg yma’n well ar gyfer plant achos rydych chi eisiau i’ch plentyn fod mor hapus a thawel â phosib yn ystod unrhyw driniaeth ddeintyddol. Mae’r ‘Happy Air’ maen nhw’’n anadlu trwy’r trwynog bach yn arwain at deimlad sy’n eu gwneud i deimlo’n llonydd a chyffyrddus (mae’n bosib hyd yn oed y bydd e’n gwneud iddyn nhw biffian [giggle]). Er bydd eich plentyn yn teimlo’n gysglyd, fyddan nhw ddim yn mynd i gysgu. Wrth gwrs, mae hwn yn llawer saffach na llonyddiad mewnwythiennol neu anesthesia cyffredinol. Mae’n rhaid i blant o dan 16 oed sy’n cael triniaeth dan lonyddiad ymandliadol, cael eu hebrwng i ac o’r deintyddfa gan rhiant neu oedolyn cymwys.
ATODLEN AR GYFER TREFNU YMGYNGHORIAD AM DDIM.