Croeso i Ddeintyddfa Y Wesh

EIN TȊM

Ein cwmni

Rydym ni’n feddygfa sefydlog sy’n croesawi claf annibynnol, preifat a chyfeiriadau deintyddol. Mae’r ddeintyddfa wedi‘i sefydlu yma ers 1985. Ers 2016, Adrian Chiriac yw’r perchennog a’r deintydd. Mae e wedi ailddodrefnu’r ddeintyddfa er mwyn gwella ei hansawdd a, hefyd, ehangu ar y triniaethau a gynigir.

Rydym ni’n ddeintyddfa sy’n cynnig y triniaethau dilynol ar gyfer y teulu oll – preifat, Cynllun Deintyddyfa (Practice Plan) a GIG sy’n cynnig ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gofal deintyddol arferol, triniaethau adferadwy, llawfeddygaeth eneuol llai, peth deintyddiaeth gosmetig a thriniaeth o dan dawelydd ar gyfer claf ofnus.

I chi sydd ag ofn triniaethau deintyddol, mae Dr Chiriac yn arwain ein tîm tawelu i’ch helpu chi drwy’ch triniaeth – gwasanaeth wnaeth gychwyn yn ddiweddar (ar gael ar gyfer claf preifat). Nid oes gennym ni unrhyw gytundebau GIG ar gyfer llawdriniaeth tawelu neu eneuol, ond rydym ni’n hapus i dderbyn ceisiadau cyfeirio o Orllewin Cymru a thu hwnt, gan gynnig triniaeth sensitif i gleifion sy’n ofnadwy o nerfus ac angen eu tawelu.


CALON EIN DEINTYDDFA

Ble ydym ni?

Mae’r feddygfa yn hawdd i’w gyrraedd ble mae’r A40 yn cyrraedd â’r A487, ar Y WESH yn Abergwaun, Sir Benfro. Rydyn ni ond munudau i ffwrdd o’r lleoliad dal bws ar sgwâr Abergwaun. Mae man parcio (hyd at 1 awr tu fas i’r feddygfa a 2 awr i bobl anabl). Hefyd, mae maes parcio mwy – ymhellach o’r feddygfa – Maes Parcio Y WESH (sat nav SA659AR). I chi sy’n teithio ar drên, mae gwasanaeth bws gwibio sy’n teithio rhwng gorsaf drên Abergwaun ac Wdig a’r Wesh yn Abergwaun.

Mae Croeso Mawr i Gleifion Newydd

Deallwn fod dewis deintydd newydd yn gallu bod yn benderfyniad mawr i rai pobl. Rydym yn falch iawn bod llawer o’n cleifion newydd ni’n dod atom ni trwy argymhelliad ffrind neu aelod o’u teulu. Mae hwn yn teimlo fel canmoliaeth fawr o’n gwasanaeth ni. Deallwn hefyd bod rhai ohonoch chi ddim wedi bod i weld y Deintydd ers sbel, a hynny am amrywiaeth o resymau, ac eich bod chi erbyn hyn yn becso am gyflwr eich dannedd chi. Efallai bod hyn hefyd yn achosi pryder iddoch chi am faint bydd unrhyw driniaeth sydd ei hangen yn costio i chi.

Rydym yn cynnig sawl opsiwn i chi er mwyn iechyd eich dannedd chi:

  • Mae croeso i chi ymuno â ni fel claf preifat, sy’n talu fesul uned o driniaeth  (gweler rhestr ffioedd)
  • Dewch yn aelod o’n Cynllun Aelodaeth Sylfaenol ni (cliciwch yma am ragor o wybodaeth)
  • Gallech chi ddewis yr opsiwn o Ariannu 0%, sy’n golygu y byddwch chi’n gallu talu’r gost dros gyfnod  (cliciwch yma am ragor o wybodaeth)
  • Gallem ni drafod â chi sut i drefnu’r driniaeth a’r gost dros gyfnod o amser.
  • Pam na ddewiswch chi Yswiriant Deintyddol bydd yn gwneud i’ch triniaeth chi fod yn rhatach? (cliciwch yma am ragor o wybodaeth)? Gofynnwch i unrhyw aelod o’n tîm ni, a byddan nhw’n hapus i esbonio i chi sut y gallai hyn bod o fantais i chi.
  • Os hoffech chi ddod i gwrdd â ni cyn gwneud apwyntiad, ffoniwch ni i drefnu pryd i ddod i mewn i’r deintyddfa i gael sgwrs gyda ni, a bydd aelod o’n staff yn esbonio natur pob opsiwn sydd ar gael iddoch chi.

Yn ystod eich apwyntiad cyntaf â ni, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen feddygol fyr ac i gadarnhau eich manylion personol chi, wrth i chi ddisgwyl eich tro i fynd i mewn i weld y deintydd. Wedyn, bydd y deintydd yn asesu eich anghenion deintyddol chi ac, wrth gwrs, yn ateb unrhyw gwestiwn hoffech chi ofyn iddo.

 

Bydd y deintydd yn trafod opsiynau triniaeth gyda chi ac yn sicrhau eich bod yn deall y gost, yn deall manteision ac anfanteision unrhyw driniaeth yn ogystal â rhagweld cyflwyr eich dannedd yn y tymor byr a’r tymor hir.

Rhowch Sgôr i’ch dannedd chi am ddim, heddiw (Cliciwch yma)A byddwn ni’n sicrhau bydd eich Sgôr yn gwella!

 

Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.

Abergwaun, Sir Benfro

SA65 9AL

07377376699

01348873370

Oriau Agor

Llun - Gwe: 9:00 - 17:00

Gofyn am Apwyntiad

weststreetdental@yahoo.co.uk