Achosion Brys Deintyddol

Yn Neintyddfa ‘Y Wesh’, rydym ni’n cynnig apwyntiadau ar frys i’n cleifion ni sy’n dioddef o broblem â’u dannedd mewn llai na 24 awr neu, os bosib ar yr un diwrnod. Os rydych chi’n dioddef o’r ddannoedd, mae eich gwyneb wedi chwyddo, mae dant neu llenwad wedi torri, mae coron neu pont wedi dod yn rhydd ac wedi ei, cholli, mae gwaedu neu dolur gyda chi ar ôl cael tynnu dant, mae eich dannedd gosod wedi eu torri, mae cillddant yn dost neu mae na anghenion hanfodol eraill gyda chi, ffoniwch 01348-873-370 neu 07377-376-699 yn ystod ein horiau agor. Hyd yn oed os nad ydych chi erioed wedi bod i’n deintyddfa ni o’r blaen, ond rydych chi’n chwilio am driniaeth ar frys, fe wnawn ni ein gorau glas i’ch helpu.

Os rydych chi’n claf ‘Practice Plan’ sydd angen triniaeth ar frys y tu allan i’r oriau agor, ffoniwch y ddeintyddfa, os gwelwch yn dda, ac yna dilynwch y cyfarwyddiadau ar y peiriant ateb, bydd yn rhoi rhifau ffôn y deintydd Ar-ddyletswydd (On-call) yn eich ardal chi. Os rydych chi’n glaf gyda ni o dan y GIG (NHS), wedyn ffoniwch NHS Direct ar 111 am ofal meddygol sydd ddim yn argyfwng, neu 999 am ofal meddygol sydd yn argyfwng. Os cewch drafferth wrth ffonio 111 neu 999, yna ffoniwch 0345-4647.

Os rydych chi’n aelod o’n ‘Practice Plan’ ni, ac mae angen trinaieth ddeintyddol arnoch chi ar frys, pan rydych chi bant o’ch cartref (mwy na 25 milltir o’r ddeintyddfa), yna bydd y rhifau ffôn isod o gymorth i chi yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae ‘na hefyd rhif ffôn ar gyfer hawlio ad-daliad yswiriant::

ATODLEN AR GYFER TREFNU YMGYNGHORIAD AM DDIM.

Abergwaun, Sir Benfro

SA65 9AL

07377376699

01348873370

Oriau Agor

Llun - Gwe: 9:00 - 17:00

Gofyn am Apwyntiad

weststreetdental@yahoo.co.uk