Deintyddfa Y Wesh

Deintyddiaeth Gyffredinol

Dyma beth mae Cymdeithas Ddeintyddol Brydeinig (British Dental Association [BDA] ) yn ei alw’n waith ‘Deintyddiaeth Gyffredinol’: ymweliadau gwirio iechyd y dannedd a’r geg; llenwadau ; mân-lawdriniaeth; tynnu dant; gwacau gwraidd dant; coronau a dannedd gosod.  Gall pob un o’r uchod cael ei wneud gan ddeintydd cyffredinol ond, weithiau gallai glaf cael ei gyfeirio/chyfeirio at ddeintydd gydag arbenigedd mewn maes penodol o ddeintydddiaeth, a hyn er mwyn sicrhau y canlyniad gorau posibl.

Yn ein deintyddfa ni, ein bwriad yw sicrhàu y byddwch yn teimlo mor cyffyrddus â phosib, yn ogystal â sicrhau - trwy wirio iechyd eich dannedd yn drylwyr – na fydd unrhyw reswm i chi boeni am gyflwr eich dannedd. Mae dod yn gyson atom ni i gael gwirio eich dannedd, yn rhoi’r cyfle i ni ddod o hyd i, a thrin, unrhyw broblemau cyn iddyn nhw fynd yn boenus neu’n gymhleth i’w trin. Rydym ni eisiau i chi deimlo’n hyderus ynglŷn ag iechyd eich dannedd.

Y ffordd orau i chi deimlo’n hyderus amdano, yw cael adolygiad trylwyr o’ch dannedd yn ein deintyddfa ni. Os rydych chi’n teimlo’n nerfus am eich ymweliad â’r deintydd, rhowch wybod i ni cyn dod, os gwelwch yn dda.

Adolygu iechyd eich danedd chi

Yn dilyn hwn, bydd y deintydd yn edrych dros eich hanes meddygol chi, ac yn trafod gyda chi unrhyw fater meddygol neu ddeintyddol pwysig. Wedyn, bydd y deintydd yn edrych yn fanwl y tu fewn i’ch ceg, wrth wirio cyflwr eich dannedd, eich deintgig (gums) a chymalau (joints) a chyhyrau (muscles) eich gên chi. Bydd e hefyd yn sgrinio am cancr y ceg. Rydym yn defnyddio’r technoleg diweddaraf, sy’n rhoi’r gwybodaeth gorau posib i ni am gyflwr iechyd eich dannedd a’ch ceg. Mae ein defnydd o Belydrau – X digidol, yn golygu eich bod yn derbyn llai o belydrau damweiniol nag yn y gorffennol, ac mae’r technoleg yma’n rhoi gwybodaeth cywir a manwl iawn iddom ni, sy’n gwneud deiagnosis yn llawer haws.

GWYN LLENWADAU


Gallwch chi gael llenwadau gwyn mewn dant ym mlaen eich ceg ac yng nghefn eich ceg. Dyma’r ffordd orau i adfer ac atgyfnerthu’ch dannedd. Mae’n bosib hefyd i lenwi bwlch llydan rhwng dau ddant neu altro siâp dant sy’n hyll neu efallai’n rhy fyr. Mae llenwadau yn fodd cyflym a fforddiadwy i gywiro amrywiaeth o broblemau deintyddol, ond, fel rheol rydym ni’n argymell newid llenwadau dim ond pan mae ‘na rheswm clinigol am wneud hynny.

Mân-lawdriniaeth y Geg & Thynnu dant

Gan amlaf, y rheswm am orfod tynnu dant, yw bod cyflwr y dant wedi gwaethygu cymaint, bod e’n amhosib ei adfer a’i gadw.
Gan amlaf, dyma’r prif resymau am dynnu dant: Yn aml, mae pydredd difrifol neu haint yn golygu bod e’n amhosib neu’n rhy ddrud i adfer y dant, Difrod i, neu bydredd yn, y dant, sydd wrth fin y deintgig (gumline), neu wedi ymestyn o dan y deintgig, Weithiau, mae dant yn cael ei thynnu pan mae hi’n rhwystro dannedd eraill rhag dod trwodd.

Triniaeth Wacau Gwraidd (Root Canal Treatment)


Mae gwacau gwraidd yn driniaeth ar gyfer dant sydd â nerf wedi ei ddifrod gan bydredd neu damwain. Mae’r driniaeth yma’n gymharol gyffyrddus, ac yn aml heb unrhyw ddolur, gan ei fod yn driniaeth dan anesthetig. .


Mae triniaeth wacau gwraidd yn gallu arbed dant rhag cael ei thynnu. Weithiau hefyd, mae angen y driniaeth yma cyn gosod coron ar ddant. Gan amlaf, mae angen tynnu’r feinwe (pulp tissue) oddi fewn i’r ddant pan mae’r feinwe yn heintiedig neu wedi gor-chwerwi.

Coronau

Mae coron yn gaead, sy’n cael ei gosod dros ben dant gyda glud neu sment deintyddol. Mae’r goron yn gorchuddio holl arwyneb cnoi’r dant yn ogystal â’r rhan fwyaf o’u ochrau. Mae ‘na ystod o ddeunyddiau ar gael i’w chreu : resin plastig, porslen, porslen yn glud wrth fetel, aloion metel cain neu aloion metelau eraill...
Dyma pryd rydym yn awgrymu i chi gael coron:

Fel haen sy’n gorchuddio a gwarchod dant sydd wedi ei difrodi’n sylweddol, neu dant sydd wedi ei thorri;
Fel adferiad parhaol o ddant sydd â llenwad mawr;
Er mwyn angori ‘pont’ aml-uned pan mae un dant neu mwy yn absennol.

Dannedd Gosod


Rhywbeth sy’n cymryd lle un, neu mwy o’ch dannedd naturiol yw dant / dannedd gosod, ac sydd hefyd yn cynnal eich bochau a’ch gwefusau.


Mae dannedd gosod rhannol yn llenwi’r bylchau ble rydych chi wedi colli dant. Maen nhw’n ynghlwm wrth eich dannedd naturiol gyda chlasbiau metelaidd neu ddyfeisiau a elwir yn ‘cydiadau manwl cywir’ (precision attachments) .


Mae dannedd gosod yn cynnig sawl mantais i’r rhai sydd yn eu defnyddio. Er efallai, bydd angen rhyw fân-addasiad i ddechrau a pheth amser i chi ddod i arfer bwyta â nhw, gallan nhw harddu eich gwên yn ogystal â chryfhau eich hunanhyder.

ATODLEN AR GYFER TREFNU YMGYNGHORIAD AM DDIM.

Abergwaun, Sir Benfro

SA65 9AL

07377376699

01348873370

Oriau Agor

Llun - Gwe: 9:00 - 17:00

Gofyn am Apwyntiad

weststreetdental@yahoo.co.uk