Gwirio Rhag Canser y Geg

Bwriad hwn yw dal unrhyw ganser y geg yn gynnar; y cyfle gorau i’w wella. Mae astudiaethau’n dangos bod canser y geg ar gynnydd ac mae dod o hyd iddo’n gynnar yn gwella’n sylweddol iawn, y posibilrwydd o’i wella. Mae gwirio rhag canser y geg yn broses cyflym, sy’n cynnwys ymchwiliad trylwyr o’ch ceg gyfan, eich gwâr a’ch pen am lympiau neu namau..

Gwirio Rhag Canser y Geg

Bwriad hwn yw dal unrhyw ganser y geg yn gynnar; y cyfle gorau i’w wella.
Mae astudiaethau’n dangos bod canser y geg ar gynnydd ac mae dod o hyd iddo’n gynnar yn gwella’n sylweddol iawn, y posibilrwydd o’i wella. Mae gwirio rhag canser y geg yn broses cyflym, sy’n cynnwys ymchwiliad trylwyr o’ch ceg gyfan, eich gwâr a’ch pen am lympiau neu namau. Bydd hwn yn dod o hyd i unrhywbeth sydd angen ei drin ganddom ni neu gan arbennigwyr meddygol eraill y byddem ni’n eich cyfeirio atynt..
Mae’n bwysig i chi i ddod i gael yr ymchwiliad hwn unwaith y flwyddyn – fel rhan o’ch gwiriad dannedd cyffredin – (routine check-up) Os mae unrhyw lwmpyn, briw (sore) neu wlser sydd heb wella ers tipyn yn eich ceg, wedyn mae’n bwysig iawn bod chi’n dod i weld ni yn y deintyddfa, er mwyn i ni gael golwg arno.
Gan fod ysmygu’n gysylltiedig â sawl math o ganser, yn ogystal â phroblemau deintyddol eraill, rydym ni wastad yn annog ein cleifion i stopio ysmygu. Mae’r ‘Mouth Cancer Foundation’ yn lle arbennig o dda i ddod o hyd i ragor o wybodaeth.

Iechydiaeth y Geg & Salwch y Deintgig

Dylai pawb fynd yn gyson at eu deintydd nhw, er lles eu dannedd nhw ac er lles eu iechydiaeth deintyddol nhw.  Cadw at ddeiet iach a chytbwys yn ogystal a brwsio a defnyddio edau ddannedd yn gywir, yw’r ffordd orau i osgoi salwch y deintgig ac i gadw eich dannedd naturiol ar  hyd eich oes.

Tra bod y rhan fwyaf o bobl yn cydnabod bod salwch y deintgig yn gyflwr difrifol, dyw rhai eraill ddim yn sylweddoli hyn.   Gan fod salwch y deintgig ddim yn boenus fel arfer, mae’n bosib bod e gyda chi heb i chi wybod.   Enw arall i salwch y deintgig yw ‘Salwch Periodontol’ neu ‘Salwch Amddanheddol’ (Periodontal Disease), yr hyn sy’n ei achosi yw ‘plaque’ sef haen gludiog o facteria, sy’n ffurfio trwy’r amser ar ein danedd ni.  Mae e’n damweinio’r deintgig fel bod e’n dod yn rhydd oddi ar y ddant ac mae hyn yn creu bwlch neu ‘pocket’’.  Mae’r salwch yma’n ymddangos fel haint yn y deintgig sy’n amgylchu ac yn dal eich dant yn ei lle, ac ymlhith oedolion mae e’n dal i fod y prif reswm am golli dant.   Os na chaiff y salwch yma ei drin, yn ogystal a cholli dant, mae e’n gysylltiedig â risg cynyddol o ddioddef o  sawl cyflwr meddygol difrifol, megis salwch y calon, strôc / trawiad, Clefyd y Siwgr Teip 2 (Type 2 Diabetes) , babanod yn cael eu geni’n rhy gynnar neu sy’n pwyso’n llai nag y dylent.

Salwch y Deintgig

Yn ôl amcangyfrifon y GIG (NHS), mae ‘na ryw fath o salwch y deintgig gyda mwy na hanner yr oedolion yn y Deyrnas Unedig, ond mae sawl un ohonynt ddim yn sylweddoli hyn. Y ffactorau sy’n cynyddu’r risg o gael salwch y deintgig yw: methu cadw’r geg a’r dannedd yn lân / ysmygu neu gnoi baco; eich Geneteg (Genetics) enedigol chi / dannedd cam sy’n anodd eu cadw’n lân; bod yn feichiog (disgwyl babi); os rydych yn dioddef o Glefyd y Siwgr (Diabetes) / a rhai meddyginiaethau (medicines).
• Deintgig sy’n gwaedu’n hawdd neu’n gwaedu wrth frysio eich dannedd neu wrth fflosio (flossing)
• Deintgig sydd wedi chwyddu, neu’n dost pan gwrddwch chi ag e.
• Deintgig sydd wedi dod yn rhydd oddi ar y dant a gadael ‘poced’ rhwng y ddau.
• Dannedd sy’n rhydd neu’n sigledig.
• Sawr cas ar eich anadl, neu blas cas yn eich ceg.
• Deintgig sy’n crebachu
• Bylchau newydd rhwng dannedd
• Unrhyw newid yn y ffordd mae eich dannedd yn cwrdd â’i gilydd wrth gnoi, neu yn y ffordd mae eich dannedd gosod chi’n ffitio.

Deintyddiaeth Ataliol

Deintyddiaeth ataliol yw’r ffordd fodern o leihau’r maint o driniaeth sydd ei hangen, er mwyn cadw eich ceg yn iach ac er mwyn cadw eich dannedd chi ar hyd eich oes.
Mae mynd i weld y Deintydd yn gyson yn hollbwysig, os rydych chi eisiau cadw eich ceg yn iach, Mae e’n helpu i atal Halitosis (sawr cas ar eich anadl), achos rydym yn cael gwared â’r bacteria sy’n ei achosi, wrth lanhau eich dannedd a’ch ceg yn drylwyr. Rhown groeso cynnes iawn i’n cleifion ni, ac yn ei dangos sut i ddatrys problemau posib.

ATODLEN AR GYFER TREFNU YMGYNGHORIAD AM DDIM.

Abergwaun, Sir Benfro

SA65 9AL

07377376699

01348873370

Oriau Agor

Llun - Gwe: 9:00 - 17:00

Gofyn am Apwyntiad

weststreetdental@yahoo.co.uk