YSWIRIANT DEINTYDDOL
Dewiswch Yswiriant Deintyddol er mwyn galluogi’ch triniaeth i fod yn fwy fforddiadwy.
SUT MAE YSWIRIANT DEINTYDDOL YN GWEITHIO?
Yn gyntaf, mae’n rhaid i chi ddewis diwrnod cychwyn y cynllun deintyddol. Ni chaiff unrhyw Driniaeth - cyn y dyddiad cychwyn - ei ad-dalu.
• Bydd rhaid i chi fod wedi cyflawni’r driniaeth, talu’r deintydd a derbyn derbynneb gyda rhestr o’r gwaith a gyflawnwyd. Byddwn ni yn rhoi hwn i chi naill ai ar ddiwedd pob ymweliad neu ar ddiwedd y driniaeth.
Dangosir y driniaeth a gyflawnwyd yn glir ar y dderbynneb.
Gallwch wedyn gyflwyno’ch cais. Mae gan rhai gwmniau ffurflenni cais a bostir, ac eraill yn eich galluogi i lenwi’r cais ar-lein, ble y gallwch ei ddilyn a gweld canlyniad yr holl geisiadau a wnaethpwyd dros y 12 mis blaenorol.
Bydd cwmniau yswiriant yn prosesu’ch cais a danfon taliad atoch neu’n talu’n uniongyrchol i mewn i’ch cyfrif banc.
Bydd y swm o arian a dalwyd yn dibynnu ar ba lefel o yswiriant sydd gennych. Cyn dechrau ar eich triniaeth, fe fydd yn ddefnyddiol i chi drafod eich yswiriant gyda’ch deintydd er mwyn cadarnhau swm y taliad.
Mae adolygiadau ac apwyntiadau hylendid deintyddol arferol, fel arfer, wedi’u hyswirio’n llawn.
• Telir canran o’r cyfanswm (o 50% i 100%) ar gyfer triniaethau deintyddol eraill (llenwadau, coronau, mewnosodiadau, camlesi gwraidd, ayb) gan ddibynnu ar lefel eich yswiriant.
Fel arfer, mae triniaeth argyfwng eithriadol wedi’i hyswirio 100% (gan weld y claf sydd â dannodd ofnadwy yr un diwrnod er mwyn sicrhau ei bod/fod allan o boen).
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, gofynnwch i unrhyw aelod o’n tîm ac fe wnawn ni esbonio sut y gallwch chi elwa o hwn.